Cefnogaeth i Fusnesau

Mae elfen cymorth busnes y gwasanaeth yn agored i bob menter fach i ganolig ym Mhowys i greu gweithleoedd iachach drwy wella eu harferion iechyd a llesiant, polisïau neu arweiniad.

Mae'r cynnig ar gyfer busnesau yn cynnwys:

Cyrsiau wedi'u Teilwra ar gyfer Staff

Gallwn ddarparu amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer eich staff ar bynciau megis:

Cyflwynir ein cyrsiau gan hyfforddwyr sy'n brofiadol, yn wybodus ac sy'n deall eich anghenion.

Mae ein hyfforddiant seiliedig ar waith AM DDIM ar gael hefyd. Gweler ein hamserlen hyfforddi ddiweddaraf isod.

Canllawiau ar bolisi gan ein harbenigwyr Adnoddau Dynol

Gall ein harbenigwyr adnoddau dynol helpu'ch busnes i ysgrifennu Polisïau a dogfennau Arfer Gorau defnyddiol ac ymarferol i helpu i greu gweithle iachach i'ch staff.

Cymorth AD a chyfraith cyflogaeth

Gall ein harbenigwyr eich cynorthwyo gydag adnoddau dynol neu faterion cyfraith cyflogaeth i godi mewn perthynas ag iechyd a llesiant.

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i Reolwyr

Mae’r cwrs yn berffaith i chi os ydych yn bwriadu cynyddu ymwybyddiaeth eich busnes o iechyd meddwl.  Bydd y cwrs yn helpu eich aelodau staff i ddeall a chydnabod achosion, symptomau ac opsiynau cymorth ar gyfer amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl cyffredin a llai cyffredin, ac i gael gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl. 

Gwelliannau i ymarfer cymorth iechyd

Cymorth gyda:

Ymyriadau pwrpasol eraill, gan ddibynnu ar anghenion unigol y busnes

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r ffyrdd isod i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn helpu'ch busnes i greu gweithle iachach.

Hyffordiant am ddim yn y gweithle

Am ddim i staff unrhyw sefydliad sydd wedi'i leoli ym Mhowys, sydd a llai na 250 o weithwyr â throsiant o lai na £50M

Pob un yn cael ei ddosbarthu ar-lein trwy Zoom.

Os hoffech gwrs nad yw ar y rhesr hon, cysylltwch â ni. Gallwn gynnig cyrsiau eraill am ddim yn benodol i ddiwallu eich anghenion.

Am ragor o wybodaeth neu i archebu cwrs hyfforddi, cysylltwch â Jo yn jo@mnpmind.org.uk

Dolenni Defnyddiol

Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cwmpasu Cymru gyfan, ac mae tri sefydliad yn cwmpasu gwahanol ardaloedd. I gael rhagor o wybodaeth am ba sefydliad sy'n cwmpasu pa ardal yng Nghymru, a gwybodaeth fwy cyffredinol am y gwasanaeth, ewch i'r ddolen isod.

Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru)

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gall ein tîm helpu eich busnes, cysylltwch â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol:

E-bost: jo@mnpmind.org.uk neu admin@iwsspowys.org.uk