Cefnogaeth i Fusnesau

Mae elfen cymorth busnes y gwasanaeth yn agored i bob menter fach i ganolig ym Mhowys i greu gweithleoedd iachach drwy wella eu harferion iechyd a llesiant, polisïau neu arweiniad.

Mae'r cynnig ar gyfer busnesau yn cynnwys:

Mae’r cwrs yn berffaith i chi os ydych yn bwriadu cynyddu ymwybyddiaeth eich busnes o iechyd meddwl.  Bydd y cwrs yn helpu eich aelodau staff i ddeall a chydnabod achosion, symptomau ac opsiynau cymorth ar gyfer amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl cyffredin a llai cyffredin, ac i gael gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl. 

Gallwn ddarparu amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer eich staff ar bynciau megis:
5 Ffordd i Wella Llesiant
Pendantrwydd
Ffynnu ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol
Meithrin Hunan-werth
A mwy ...

Cyflwynir ein cyrsiau gan hyfforddwyr sy'n brofiadol, yn wybodus ac sy'n deall eich anghenion.

Gall ein harbenigwyr adnoddau dynol helpu'ch busnes i ysgrifennu Polisïau a dogfennau Arfer Gorau defnyddiol ac ymarferol i helpu i greu gweithle iachach i'ch staff.

Cymorth gyda:

  • sut i ddefnyddio Cynlluniau Gweithredu Llesiant staff,
  • datblygu Llesiant Staff neu Bolisïau Gweithio Hyblyg,
  • cynnal digwyddiadau llesiant staff a
  • ffyrdd pwrpasol eraill o gynyddu ffocws eich busnes ar iechyd

Gall ein harbenigwyr eich cynorthwyo gydag adnoddau dynol neu faterion cyfraith cyflogaeth i godi mewn perthynas ag iechyd a llesiant.

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r ffyrdd isod i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn helpu'ch busnes i greu gweithle iachach.

Support for Businesses

Dolenni Defnyddiol

Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cwmpasu Cymru gyfan, ac mae tri sefydliad yn cwmpasu gwahanol ardaloedd. I gael rhagor o wybodaeth am ba sefydliad sy'n cwmpasu pa ardal yng Nghymru, a gwybodaeth fwy cyffredinol am y gwasanaeth, ewch i'r ddolen isod.

Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru)

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gall ein tîm helpu eich busnes, cysylltwch â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol:

E-bost: jo@mnpmind.org.uk neu anna@iwsspowys.org.uk