Cefnogaeth i unigolion

Gall straen a phryder gael effaith enfawr ar ein bywydau gwaith, gan beri i ni deimlo’n llethol a chael trafferth delio â phwysau bob dydd.  Os nad ydym yn ceisio cymorth i'n helpu i ddelio â'r materion hyn, gallai hyn arwain at effeithiau pellach ar ein bywydau, gan gynnwys problemau iechyd corfforol ac absenoldeb oherwydd salwch. Gall hyn wedyn peri rhagor o bryder i'n bywydau, gan gynnwys straen ariannol.

Os ydych chi'n cael trafferth, gall y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith helpu.

Mae ein gwasanaeth yn cynnig mynediad cyflym ac am ddim i ystod o ymyriadau therapiwtig a gynlluniwyd i'ch cefnogi chi i ddelio â'r pryderon rydych chi'n eu hwynebu a'ch cael chi'n ôl ar eich traed.

Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfrinachol; Ni fyddwn yn hysbysu eich cyflogwr eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny.

Sut allwn ni helpu?

Gall ein tîm profiadol a chymwys eich cefnogi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

Cwnsela/seicotherapi gydag un o'n cwnselwyr llawn hyfforddedig i'ch helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth eich hun o'ch sefyllfa, a darparu lle diogel i chi archwilio agweddau ar eich bywyd a'ch teimladau drwy siarad yn agored ac yn rhydd. Mae ein cynghorwyr yn defnyddio technegau i'ch helpu i ddod i'ch penderfyniadau eich hun neu ddatblygu strategaethau i fynd i'r afael â'ch pryderon a'u datrys.

Cefnogaeth un i un gyda gweithiwr cymorth profiadol a gwybodus iawn a all eich helpu i reoli eich iechyd meddwl.

Mae EMDR yn sefyll am Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad Llygaid (Eye Movement Desensitisation and Reprocessing).  IMae'n seicotherapi cynhwysfawr sy'n eich helpu i brosesu a gwella o brofiadau yn y gorffennol sy'n effeithio ar eich iechyd meddwl a'ch llesiant.Mae'n cynnwys defnyddio symudiadau llygaid ochr i ochr ynghyd â therapi siarad mewn fformat penodol a strwythuredig.

Mae CBT yn sefyll am Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (Cognitive Behavioural Therapy). Mae CBT yn seiliedig ar y cysyniad bod eich meddyliau, teimladau, teimladau corfforol a gweithredoedd i gyd yn rhyng-gysylltiedig, a bod meddyliau a theimladau negyddol yn gallu eich trapio mewn cylch dieflig. Gan ddefnyddio gwahanol ddulliau ac offer, gallwch ddysgu i wella'r patrymau meddwl negyddol hyn.

Sesiynau ffisiotherapi ac osteopathi gydag ymarferwyr profiadol a hyfforddedig iawn i'ch helpu i wella eich iechyd corfforol.

Mae'r holl ymyriadau yn fyr, gyda ffocws penodol ac uchafswm o 6 sesiwn y pen.

Talking Therapy

Cymhwysedd

I fod yn gymwys i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, rhaid i chi fod:

Cysylltu â ni

Os hoffech gyfeirio eich hun at y gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau canlynol:

Ffôn: Anna ar 07300 827890

E-bost: anna@iwsspowys.org.uk neu admin@iwsspowys.org.uk